Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mawrth 2017

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 - Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus

Diben

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar weithdrefnau ac arferion cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reolau Sefydlog 23.2(i) a 23.4, a dileu Rheol Sefydlog 23.5. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.

Cefndir

3.        Roedd adroddiad Pwyllgor Deisebau y Pedwerydd Cynulliad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016, Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus, yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer newid prosesau deisebau cyhoeddus y Cynulliad. 

 

4.        Ym mis Gorffennaf 2017, trafododd Pwyllgor Busnes y Pumed Cynulliad yr adroddiad yn ei gyfanrwydd a nododd y byddai'n barod i ystyried Argymhellion 1, 3, 4, 7, 8, 11 a 17, y gallent i gyd fod wedi'u gweithredu gan newidiadau i'r Rheolau Sefydlog.  Ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor Deisebau newydd i geisio ei farn ar ba rai o argymhellion ei ragflaenydd y byddai'n hoffi bwrw ymlaen â hwy. 

5.        Roedd ymateb y Pwyllgor Deisebau yn nodi y byddai'n hoffi i'r Pwyllgor Busnes fwrw ymlaen â'r tri argymhelliad a ganlyn:

 

·         Argymhelliad 3: Rydym yn argymell cael gwared ar y trothwy deuol presennol ar gyfer llofnodion a bod y trothwy ar gyfer ystyried unrhyw ddeiseb yn cael ei godi i 50 o lofnodion.

·         Argymhelliad 4: Rydym yn argymell mai dim ond pobl sy'n byw yng Nghymru neu sefydliadau sydd â swyddfa yng Nghymru ddylai allu cyflwyno deisebau. Ni ddylid cael cyfyngiadau ar y rhai sydd am lofnodi deiseb.

·         Argymhelliad 8: Rydym yn argymell i'r Pwyllgor newydd yn y Pumed Cynulliad  y dylai...ystyried cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn awtomatig ar unrhyw ddeiseb sy'n cyrraedd trothwy llofnodion (efallai bod ffigur o 10,000 o lofnodion yn briodol)...

 

 

Cynigion ar gyfer newidiadau i Reolau Sefydlog

6.        Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'r newidiadau hynny a gefnogir gan y Pwyllgor Deisebau newydd, ac mae'r newidiadau i'r Rheolau Sefydlog a gynigir yn yr adroddiad hwn wedi'u cynllunio i roi Argymhellion 3 a 4 ar waith.

Rheol Sefydlog 23.2(i) - Deisebydd i fod yn byw neu wedi'i leoli yng Nghymru

7.        Bwriad y diwygiad i Reol Sefydlog 23.2(i) yw gweithredu argymhelliad 4 y Pwyllgor Deisebau y dylai deisebau a gyflwynir i'r Cynulliad fod yn amlwg ar faterion sy'n peri pryder i, neu gynnwys cynigion polisi gan, bobl a/neu sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.  Byddai'n ofynnol i'r deisebydd fod yn byw yng Nghymru, neu - yn achos sefydliadau - fod â swyddfa yng Nghymru, a fyddai'n cael ei wirio drwy wiriad cod post pan fo deiseb yn cael ei chyflwyno.  Ni chynigir newidiadau ar gymhwysedd i lofnodi deisebau, sy'n parhau i fod heb gyfyngiadau.

Rheol Sefydlog 23.4 a dileu 23.5 - Trothwy llofnodion

8.        Byddai'r newid arfaethedig i Reol Sefydlog 23.4 yn cynyddu'r trothwy llofnodion ar gyfer pob deiseb o 10 i 50, yn unol ag argymhelliad 3 yr Adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus.  Mae'r cynnig i ddileu Rheol Sefydlog 23.5 yn dod â'r gwahaniaeth presennol rhwng deisebau gan sefydliadau ac unigolion i ben, fel y bydd angen 50 o lofnodion ar bob deiseb.

 

9.        Nod y cynnydd hwn yw sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu natur agored system ddeisebau y Cynulliad a helpu i gynyddu hygrededd y broses ddeisebu; ac i'r un trothwy fod yn gymwys os yw deisebydd yn sefydliad.

 

Argymhelliad 8 - Trothwy awtomatig ar gyfer dadleuon ar ddeisebau yn y Cyfarfod Llawn

 

10.     Cytunodd y Pwyllgor Deisebau newydd gydag Argymhelliad 8, y dylai deisebau sy'n cael nifer penodol o lofnodion gael eu hystyried yn awtomatig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.  Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Deisebau newydd yn ystyried mai 5,000 o lofnodion yw'r trothwy mwyaf priodol, yn hytrach na 10,000 fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor blaenorol. Mae hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r deisebau a ddaeth i law ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad sy'n nodi y gellid disgwyl i tua thair deiseb y flwyddyn gyrraedd y trothwy.

 

11.     Fodd bynnag, cred y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Deisebau y byddai'n briodol i'r Pwyllgor Deisebau ddefnyddio ei ddisgresiwn ei hun ynghylch unrhyw ddeiseb nad yw'n cyrraedd y trothwy, gan ystyried materion megis perthnasedd trafod y mater a'r amser mwyaf priodol.  Roedd y Pwyllgor Deisebau hefyd am gadw'r hawl i ddefnyddio ei ddisgresiwn i wneud cais am gynnal dadleuon ar ddeisebau eraill nad ydynt yn cyrraedd y trothwy hwn, ond yr ystyrir ei bod yn briodol eu trafod gan y Cynulliad cyfan. 

 

12.     Felly, caiff y newid hwn ei fabwysiadu fel rhan o drefn mewnol y Pwyllgor ac ni fyddai'n gofyn am newidiadau o ran Rheolau Sefydlog.  Mae'r Pwyllgor Busnes wedi gofyn i'r Pwyllgor Deisebau ysgrifennu ato i'w wneud yn ymwybodol o unrhyw ddeisebau sy'n cyrraedd y trothwy, ac i'r Pwyllgor nodi a yw am wneud cais am ddadl ar y ddeiseb neu beidio, a'i resymau dros ddod i'r safbwynt hwnnw.

 

Gweithredu

13.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 28 Chwefror 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion fel y'u nodir yn Atodiad B. 

 

 

 


Annex A

RHEOL SEFYDLOG 23 – Deisebau’r Cyhoedd

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

23.1

Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 23 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 23 fel “pwyllgor cyfrifol”).

 

Cadw'r Rheol Sefydlog

Ffurf Deisebau

23.2

Rhaid i ddeiseb nodi’n glir:

(i)         enw’r deisebydd, a gaiff fod yn berson unigol (heblaw Aelod) sy'n preswylio yng Nghymru, neu yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau â safle yng Nghymru;

(ii)       cyfeiriad y deisebydd y dylai pob gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gael ei hanfon iddo; a

(iii)      enwau a chyfeiriadau unrhyw un sy’n cefnogi’r ddeiseb.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

 

Byddai'r newidiadau arfaethedig i (i) yn ei gwneud yn ofynnol i'r deisebydd fod yn preswylio yng Nghymru, neu - yn achos sefydliadau - fod â safle yng Nghymru. Ni fyddai unrhyw gyfyngiad ar bwy allai lofnodi deiseb.

 

Byddai'r newidiadau hyn yn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Pwyllgor Deisebau.

23.3  

Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar briod ffurf deisebau a rhaid iddo gyhoeddi ei benderfyniadau.

 

 

Derbyniadwyedd Deisebau

23.4

Nid yw deiseb yn dderbyniadwy:

(i)        os yw’n cynnwys llai na 10 llofnod50 o lofnodion;

(ii)       os yw’n methu â chydymffurfio â Rheol Sefydlog 23.2 neu os nad yw yn y briod ffurf mewn ffordd arall;

(iii)      os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd;

(iv)      os yw’n gofyn i’r Cynulliad wneud unrhyw beth y mae’n eglur nad oes gan y Cynulliad bŵer i’w wneud; neu

(v)       os yw yr un fath, neu i raddau helaeth yr un fath, â deiseb a gaewyd lai na blwyddyn yn gynt. 

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog.

 

Byddai'r newid arfaethedig yn cynyddu trothwy'r gefnogaeth ar gyfer cyflwyno deiseb o 10 i 50, yn unol ag argymhelliad 3 y Pwyllgor Deisebau.

 

23.5

Nid yw Rheol Sefydlog 23.4(i) yn gymwys os yw’r deisebydd yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog

 

Roedd argymhelliad 3 y Pwyllgor Deisebau hefyd yn awgrymu y dylai'r trothwy newydd o 50 fod yn berthnasol i bob deiseb, gan gynnwys y rhai a gyflwynir gan sefydliad.

 

Trwy ddileu'r Rheol Sefydlog hon, byddai darpariaethau Rheol Sefydlog 23.4 yn berthnasol i bob deiseb.

23.6

Rhaid i’r Llywydd ystyried a phenderfynu mewn anghydfod a yw deiseb yn dderbyniadwy a rhaid iddo hysbysu’r deisebydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto.

 

 

23.7

Rhaid i’r Llywydd gyhoeddi cofrestr o’r penderfyniadau a wnaed o dan Reol Sefydlog 23.6.

 

 

 

 

 

 


Annex B

RHEOL SEFYDLOG 23 – Deisebau’r Cyhoedd

 

Y Pwyllgor neu Bwyllgorau

23.1              Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheol Sefydlog 23 yn cael ei aseinio i bwyllgor neu bwyllgorau (y cyfeirir ato neu atynt yn Rheol Sefydlog 23 fel “pwyllgor cyfrifol”).

 

Ffurf Deisebau

23.2              Rhaid i ddeiseb nodi’n glir:

(i)        enw’r deisebydd, a gaiff fod yn berson unigol (heblaw Aelod) sy'n preswylio yng Nghymru, neu yn gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig o bersonau â safle yng Nghymru;

(ii)      cyfeiriad y deisebydd y dylai pob gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gael ei hanfon iddo; a

(iii)     enwau a chyfeiriadau unrhyw un sy’n cefnogi’r ddeiseb.

 

23.3              Rhaid i’r Llywydd benderfynu ar briod ffurf deisebau a rhaid iddo gyhoeddi ei benderfyniadau.

 

Derbyniadwyedd Deisebau

23.4              Nid yw deiseb yn dderbyniadwy:

(i)        os yw’n cynnwys llai na 50 o lofnodion;

(ii)      os yw’n methu â chydymffurfio â Rheol Sefydlog 23.2 neu os nad yw yn y briod ffurf mewn ffordd arall;

(iii)     os yw’n cynnwys iaith sy’n peri tramgwydd;

(iv)     os yw’n gofyn i’r Cynulliad wneud unrhyw beth y mae’n eglur nad oes gan y Cynulliad bŵer i’w wneud; neu

(v)       os yw yr un fath, neu i raddau helaeth yr un fath, â deiseb a gaewyd lai na blwyddyn yn gynt.

23. 5       [Dilëwyd y Rheol Sefydlog hon drwy benderfyniad y Cynulliad ar XX XXXX XXXX]

23.6              Rhaid i’r Llywydd ystyried a phenderfynu mewn anghydfod a yw deiseb yn dderbyniadwy a rhaid iddo hysbysu’r deisebydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am ei benderfyniad a’r rhesymau drosto.

23.7              Rhaid i’r Llywydd gyhoeddi cofrestr o’r penderfyniadau a wnaed o dan Reol Sefydlog 23.6.

 

Gweithredu ar Ddeiseb

23.8              Os yw deiseb yn dderbyniadwy, rhaid i’r Llywydd gyfeirio’r ddeiseb honno at bwyllgor cyfrifol.

23.9        Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol:

(i)        cyfeirio’r ddeiseb at y llywodraeth, unrhyw un arall o bwyllgorau’r Cynulliad neu unrhyw berson neu gorff arall iddynt hwythau gymryd unrhyw gamau y credant eu bod yn briodol;

(ii)      cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad; neu

(iii)     cymryd unrhyw gamau eraill y mae’r pwyllgor yn credu eu bod yn briodol.

23.10      Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol hysbysu’r deisebydd am unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reol Sefydlog 23.9.

 

Cau Deisebau

23.11      Caiff pwyllgor cyfrifol gau deiseb ar unrhyw adeg.

23.12          Pan fydd pwyllgor cyfrifol yn cau deiseb, rhaid iddo hysbysu’r deisebydd fod y ddeiseb wedi’i chau a’i hysbysu am y rhesymau dros ei chau.